8. Ond bellach mae eu hwynebau yn ddu fel parddu.Does neb yn eu nabod nhw ar y strydoedd.Dŷn nhw'n ddim byd ond croen ac asgwrn,ac mae eu croen wedi sychu fel pren.
9. Roedd y rhai gafodd eu lladd gyda'r cleddyfyn fwy ffodus na'r rhai sy'n marw o newyn –y rhai mae bywyd yn llifo'n araf ohonyn nhw,am fod ganddyn nhw ddim i'w fwyta.
10. Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio,roedd mamau, oedd unwaith yn dyner,yn coginio eu plant i'w bwyta!
11. Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd.Tywalltodd ei ddig ffyrniga chynnau tânwnaeth losgi sylfeini Seion.