1. O! Mae'r aur wedi colli ei sglein.Dydy'r aur pur ddim yn edrych fel aur ddim mwy!Mae gemau gwerthfawr ar chwâlar gornel pob stryd.
2. Roedd plant gwerthfawr Seionyn werth eu pwysau mewn aur.Ond bellach – O! maen nhw mor ddiwertha photiau pridd wedi eu gwneud gan grochenydd!
3. Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bachac yn eu bwydo ar y fron,ond mae fy mhobl i yn esgeulus o'u plantfel yr estrys yn yr anialwch.
4. Mae tafodau'r babanod yn glynu i dop eu cegauam fod syched arnyn nhw.Mae plant bach yn cardota am fwyd,ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw.