15. Gallwn i fod wedi dy daro di a dy bobl gyda pla ofnadwy fyddai wedi eich dileu oddi ar wyneb y ddaear!
16. Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos i ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.
17. Ond rwyt ti'n dal i ormesu fy mhobl, ac yn gwrthod gadael iddyn nhw fynd yn rhydd.
18. Felly, tua'r adeg yma yfory, dw i'n mynd i anfon y storm genllysg waethaf mae'r Aifft erioed wedi ei gweld.
19. Gwell i ti gasglu dy anifeiliaid a phopeth arall sydd piau ti o'r caeau i le saff. Bydd pob person ac anifail sy'n cael ei ddal yn y cae gan y storm yn cael ei daro gan y cenllysg ac yn marw!”’”
20. Dyma rai o swyddogion y Pharo yn credu beth ddwedodd yr ARGLWYDD, ac yn brysio allan i gasglu eu gweision a'u hanifeiliaid o'r caeau.
21. Ond roedd eraill yn poeni dim am y peth, a dyma nhw'n gadael eu gweision a'u hanifeiliaid yn y caeau.
22. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cod dy law i fyny i'r awyr, i wneud i genllysg ddisgyn drwy wlad yr Aifft, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar y cnydau sy'n tyfu trwy'r wlad i gyd.”
23. Pan gododd Moses ei ffon i'r awyr, dyma'r ARGLWYDD yn anfon storm o genllysg gyda mellt a tharanau. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg ar wlad yr Aifft i gyd.
24. Roedd y cenllysg yn syrthio, a'r mellt yn fflachio yn ôl a blaen. Roedd yn bwrw mor drwm, fuodd yna erioed storm debyg iddi yn holl hanes gwlad yr Aifft.