Exodus 7:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. Wedyn bydd pobl yr Aifft yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n taro'r Aifft ac arwain pobl Israel allan o'i gwlad nhw.”

6. Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw.

7. Roedd Moses yn wyth deg oed, ac Aaron yn wyth deg tri, pan aethon nhw i siarad â'r Pharo.

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron,

9. “Pan fydd y Pharo yn dweud, ‘Dangoswch wyrth i mi,’ dywed wrth Aaron am daflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo, a bydd y ffon yn troi'n neidr anferth.”

10. Pan aeth Moses ac Aaron at y Pharo, dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma Aaron yn taflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo a'i swyddogion, a dyma'r ffon yn troi'n neidr anferth.

11. Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a consurwyr – dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith.

12. Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd!

13. Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

14. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl.

Exodus 7