11. Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a consurwyr – dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith.
12. Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd!
13. Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
14. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl.
15. Bore yfory dos i'w gyfarfod pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dos i sefyll ar lan yr Afon Nil, yn disgwyl amdano. Dos â dy ffon gyda ti, sef yr un wnaeth droi'n neidr.
16. Dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando.
17. Felly mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dyma sut rwyt ti'n mynd i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD: Dw i'n mynd i daro dŵr yr Afon Nil gyda'r ffon yma, a bydd yn troi yn waed.
18. Bydd y pysgod yn marw, a bydd yr Afon Nil yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’”