1. Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’”
2. Ond dyma'r Pharo'n ateb, “A pwy ydy'r ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd ychwaith!”
3. A dyma nhw'n ei ateb, “Mae Duw yr Hebreaid wedi cyfarfod gyda ni. Plîs, gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, rhag iddo ein taro ni gyda haint ofnadwy neu i ni gael ein lladd mewn rhyfel.”
4. “Moses, Aaron,” meddai'r brenin, “dych chi'n stopio'r bobl rhag mynd ymlaen gyda'u gwaith! Ewch yn ôl i weithio!