8. yn un darn gyda'r caead ei hun.
9. Roedd adenydd y ceriwbiaid ar led yn cysgodi dros gaead yr Arch. Roedd y ceriwbiaid yn wynebu ei gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.
10. Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia โ 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.
11. Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno.
12. Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas โ hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath รข'r border.
13. Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'i gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau
14. wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.
15. Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur.
16. Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur โ y platiau, pedyll, jygiau a powlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.