Exodus 34:2-20 beibl.net 2015 (BNET)

2. Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd i'm cyfarfod i.

3. Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos at y mynydd. Paid hyd yn oed gadael i'r defaid a'r geifr a'r gwartheg bori o flaen y mynydd.”

4. Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna'n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â'r ddwy lechen gydag e.

5. A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD.

6. Dyma'r ARGLWYDD yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel!

7. Mae'n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.”

8. Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli,

9. a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae'r bobl yma yn ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a'n pechod ni, a'n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?”

10. Atebodd Duw, “Iawn. Dw i'n gwneud ymrwymiad. Dw i'n mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi eu dychmygu o'r blaen. Bydd y bobl rwyt ti'n byw yn eu canol nhw yn gweld beth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud. Dw i'n gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti.

11. Gwna'n siŵr dy fod ti'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthot ti heddiw.“Dw i'n mynd i yrru allan o'ch blaen chi yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.

12. Gwyliwch chi eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl hynny sy'n byw yn y wlad lle dych chi'n mynd, rhag iddyn nhw eich baglu chi.

13. Dw i eisiau i chi ddinistrio eu hallorau, malu'r colofnau cysegredig, a thorri polion y dduwies Ashera i lawr.

14. Peidiwch plygu i addoli unrhyw dduw arall. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus – Eiddigedd ydy ei enw e.

15. Gwyliwch eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad. Y peryg wedyn ydy y byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw pan fyddan nhw'n addoli ac yn aberthu i'w duwiau.

16. Byddwch chi'n gadael i'ch meibion briodi eu merched nhw. Bydd y rheiny yn addoli eu duwiau, ac yn cael eich meibion chi i fod yn anffyddlon i mi a gwneud yr un fath.

17. Peidiwch gwneud duwiau o fetel tawdd.

18. “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Bara Croyw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo, fel gwnes i orchymyn i chi. Mae hyn i ddigwydd ar yr amser iawn ym Mis Abib, am mai dyna pryd ddaethoch chi allan o'r Aifft.

19. Mae mab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, yn perthyn i mi – o'r gwartheg, defaid a geifr.

20. Mae'r asyn bach cyntaf i gael ei eni i gael ei brynu yn ôl gydag oen. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf.“Rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl. A does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.

Exodus 34