12. Gwyliwch chi eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl hynny sy'n byw yn y wlad lle dych chi'n mynd, rhag iddyn nhw eich baglu chi.
13. Dw i eisiau i chi ddinistrio eu hallorau, malu'r colofnau cysegredig, a thorri polion y dduwies Ashera i lawr.
14. Peidiwch plygu i addoli unrhyw dduw arall. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus – Eiddigedd ydy ei enw e.
15. Gwyliwch eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad. Y peryg wedyn ydy y byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw pan fyddan nhw'n addoli ac yn aberthu i'w duwiau.
16. Byddwch chi'n gadael i'ch meibion briodi eu merched nhw. Bydd y rheiny yn addoli eu duwiau, ac yn cael eich meibion chi i fod yn anffyddlon i mi a gwneud yr un fath.
17. Peidiwch gwneud duwiau o fetel tawdd.
18. “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Bara Croyw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo, fel gwnes i orchymyn i chi. Mae hyn i ddigwydd ar yr amser iawn ym Mis Abib, am mai dyna pryd ddaethoch chi allan o'r Aifft.
19. Mae mab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, yn perthyn i mi – o'r gwartheg, defaid a geifr.
20. Mae'r asyn bach cyntaf i gael ei eni i gael ei brynu yn ôl gydag oen. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf.“Rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl. A does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.
21. Cewch weithio am chwe diwrnod, ond rhaid i chi orffwys ar y seithfed. Rhaid i chi orffwys hyd yn oed os ydy hi'n amser i aredig neu i gasglu'r cnydau.
22. “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Cynhaeaf – gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith – a Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf ar ddiwedd y flwyddyn.
23. “Felly, dair gwaith bob blwyddyn mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD, sef Duw Israel.
24. Dw i'n mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi di'n ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti.