Exodus 33:16-23 beibl.net 2015 (BNET)

16. Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni'n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy'r byd i gyd?”

17. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda i'n gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.”

18. Dyma Moses yn dweud, “Dangos dy ysblander i mi.”

19. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i'n mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr ARGLWYDD’ o dy flaen di. Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.”

20. Yna dwedodd, “Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.”

21. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma.

22. Pan fydd fy ysblander i'n mynd heibio, bydda i'n dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio.

23. Wedyn bydda i'n cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.”

Exodus 33