Exodus 33:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen – ti a'r bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch i'r wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’

2. Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.

3. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chi'n bobl ystyfnig, a falle y bydda i'n eich dinistrio chi ar y ffordd.”

4. Dyna oedd newyddion drwg! Pan glywodd y bobl hynny, dyma nhw'n dechrau galaru. Doedd neb yn gwisgo tlysau,

5. am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dych chi'n bobl ystyfnig. Petawn i'n mynd gyda chi dim ond am foment, falle y byddwn i'n eich dinistrio chi. Felly tynnwch eich tlysau i ffwrdd, i mi benderfynu beth i'w wneud gyda chi.’”

6. Felly dyma bobl Israel yn tynnu eu tlysau i gyd i ffwrdd pan oedden nhw wrth Fynydd Sinai.

7. Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan i'r gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr ARGLWYDD, byddai'n mynd at y babell yma tu allan i'r gwersyll.

8. Pan fyddai Moses yn mynd allan i'r babell, byddai'r bobl i gyd yn sefyll tu allan i'w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i'r babell.

9. Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i'r fynedfa tra roedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses.

10. Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw'n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli.

11. Byddai'r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i'r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy'r amser.

12. Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â'r bobl yma allan,’ ond dwyt ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’

13. Os ydy hynny'n wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydy'r rhain.”

Exodus 33