Exodus 31:2-13 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Dw i wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda.

3. Dw i wedi ei lenwi ag Ysbryd Duw, i roi dawn, deall a gallu iddo, a'i wneud yn feistr ym mhob crefft –

4. i wneud pethau hardd allan o aur, arian a phres;

5. i dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed a pob math o waith crefft arall.

6. A dw i am i Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, ei helpu. Dw i hefyd wedi rhoi doniau i'r crefftwyr gorau eraill, iddyn nhw wneud yr holl bethau dw i wedi eu disgrifio i ti:

7. Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, y caead sydd ar yr Arch, a'r holl bethau eraill sy'n y babell,

8. sef y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,

9. yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi gyda'i hoffer i gyd, a'r ddysgl fawr gyda'i stand,

10. y gwisgoedd wedi eu brodio'n hardd, gwisg gysegredig Aaron, a'r gwisgoedd i'w feibion pan fyddan nhw'n gwasanaethu fel offeiriaid,

11. yr olew eneinio, a'r arogldarth persawrus ar gyfer y Lle Sanctaidd. Maen nhw i wneud y pethau yma i gyd yn union fel dw i wedi dweud wrthot ti.”

12. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,

13. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cadw fy Sabothau i. Bydd gwneud hynny yn arwydd bob amser o'r berthynas sydd rhyngon ni, i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.

Exodus 31