Exodus 30:24-38 beibl.net 2015 (BNET)

24. a pum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddio mesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedair litr o olew olewydd.

25. Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.

26. Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth,

27. y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,

28. yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand.

29. Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig.

30. Rwyt hefyd i eneinio Aaron a'i feibion, a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.

31. Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau.

32. Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd.

33. Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo, neu yn ei ddefnyddio ar rywun sydd ddim yn offeiriad, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.’”

34. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer berlysiau, sef gwm resin, onicha, a galbanwm gyda'r un faint o fyrr pur,

35. a'i gymysgu i wneud arogldarth – cymysgedd persawrus wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Rhaid iddo fod wedi ei falu'n fân, ac yn gymysgedd pur, cysegredig.

36. Mae peth ohono i gael ei falu yn llwch mân, a'i roi o flaen Arch y dystiolaeth tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, lle bydda i'n dy gyfarfod di. Rhaid iddo gael ei drin yn sanctaidd iawn.

37. Does neb i ddefnyddio'r un cynhwysion i wneud arogldarth tebyg iddo. Arogldarth yr ARGLWYDD ydy e, ac mae i gael ei drin yn sanctaidd.

38. Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo i bwrpas arall, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”

Exodus 30