Exodus 30:19-32 beibl.net 2015 (BNET)

19. Bydd Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed ynddi.

20. Maen nhw i ymolchi gyda dŵr pan fyddan nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw, rhag iddyn nhw farw. A hefyd pan fyddan nhw'n mynd at yr allor i losgi offrwm i'r ARGLWYDD.

21. Maen nhw i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddyn nhw farw. Dyma fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.”

22. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

23. “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr,

24. a pum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddio mesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedair litr o olew olewydd.

25. Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.

26. Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth,

27. y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,

28. yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand.

29. Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig.

30. Rwyt hefyd i eneinio Aaron a'i feibion, a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.

31. Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau.

32. Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd.

Exodus 30