Exodus 30:17-29 beibl.net 2015 (BNET)

17. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses

18. “Rwyt hefyd i wneud dysgl fawr bres gyda stand bres oddi tani. Mae hon ar gyfer ymolchi, i'w gosod rhwng Pabell Presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr.

19. Bydd Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed ynddi.

20. Maen nhw i ymolchi gyda dŵr pan fyddan nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw, rhag iddyn nhw farw. A hefyd pan fyddan nhw'n mynd at yr allor i losgi offrwm i'r ARGLWYDD.

21. Maen nhw i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddyn nhw farw. Dyma fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.”

22. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

23. “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr,

24. a pum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddio mesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedair litr o olew olewydd.

25. Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.

26. Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth,

27. y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,

28. yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand.

29. Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig.

Exodus 30