Exodus 30:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.”

11. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses

12. “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw.

13. Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD.

14. Mae pob un sy'n ugain oed neu'n hŷn, i roi offrwm i'r ARGLWYDD.

15. Dydy'r cyfoethog ddim i roi mwy, a'r tlawd ddim i roi llai. Mae pob un i dalu'r hanner sicl yn iawndal am ei fywyd.

16. Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal Pabell Presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.”

17. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses

18. “Rwyt hefyd i wneud dysgl fawr bres gyda stand bres oddi tani. Mae hon ar gyfer ymolchi, i'w gosod rhwng Pabell Presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr.

19. Bydd Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed ynddi.

Exodus 30