32. Yna mae Aaron a'i feibion i fwyta cig yr hwrdd, gyda'r bara oedd yn y fasged, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.
33. Dim ond nhw sydd i gael bwyta'r cig a'r bara gafodd ei ddefnyddio i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw รข Duw, pan oedden nhw'n cael eu hordeinio a'u cysegru i'r gwaith. Does neb arall yn cael eu bwyta, am eu bod wedi eu cysegru.
34. Os oes cig neu fara dros ben y bore wedyn, rhaid ei losgi. Dydy e ddim i gael ei fwyta am ei fod wedi ei gysegru.