Exodus 28:2-10 beibl.net 2015 (BNET)

2. Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron – gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud.

3. Rwyt i siarad â'r crefftwyr gorau, sydd wedi eu donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron, fydd yn dangos ei fod wedi ei ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi.

4. “Dyma'r gwahanol rannau o'r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae'r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a'i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi.

5. Mae'r cwbl i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

6. Mae'r effod i gael ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei ddylunio'n gelfydd a'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

7. Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd.

8. Mae'r strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod, wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

9. Yna rwyt i gymryd dwy garreg onics a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw,

10. yn y drefn y cawson nhw eu geni – chwech ar un garreg a chwech ar y llall.

Exodus 28