13. Mae'r ffiligri i gael ei wneud o aur,
14. gyda dwy gadwyn o aur pur wedi ei blethu yn hongian o un i'r llall.
15. “Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
16. Mae i'w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
17. Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
18. yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;
19. y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;
20. a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.
21. Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi ei grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
22. Yna mae cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod arno.
23. Yna gwneud dwy ddolen aur, a'i cysylltu nhw i'r corneli uchaf.
24. Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,
25. a chysylltu pen arall y cadwyni i strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen.
26. Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'i cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod.
27. Yna gwneud dwy ddolen aur arall a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod.
28. Mae dolenni'r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd.
29. Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel.
30. Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD.
31. “Mae'r fantell sy'n mynd gyda'r effod i fod yn las.