Exodus 28:10-24 beibl.net 2015 (BNET)

10. yn y drefn y cawson nhw eu geni – chwech ar un garreg a chwech ar y llall.

11. Mae crefftwr profiadol i grafu'r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.

12. Yna cysylltu'r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo'r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD.

13. Mae'r ffiligri i gael ei wneud o aur,

14. gyda dwy gadwyn o aur pur wedi ei blethu yn hongian o un i'r llall.

15. “Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.

16. Mae i'w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr.

17. Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;

18. yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;

19. y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;

20. a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.

21. Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi ei grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.

22. Yna mae cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod arno.

23. Yna gwneud dwy ddolen aur, a'i cysylltu nhw i'r corneli uchaf.

24. Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,

Exodus 28