7. Yna dyma fe'n cymryd Sgrôl yr Ymrwymiad, ac yn ei darllen i'r bobl. A dyma nhw'n dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, ac yn gwrando arno.”
8. Wedyn dyma Moses yn cymryd y gwaed oedd yn y powlenni, a'i daenellu ar y bobl. Ac meddai, “Mae'r gwaed hwn yn cadarnhau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud, i chi fod yn ufudd i bopeth mae e'n ddweud.”
9. Yna dyma Moses, Aaron, Nadab, Abihw a saith deg arweinydd Israel yn mynd i fyny'r mynydd,
10. a dyma nhw'n gweld Duw Israel. Dan ei draed roedd rhywbeth tebyg i balmant wedi ei wneud o saffir. Roedd yn glir fel yr awyr las.