15. Ond os oedd y perchennog yno ar y pryd, fydd dim rhaid talu. Ac os oedd yr anifail wedi ei logi am dâl, mae'r arian gafodd ei dalu yn cyfro'r golled.
16. Os ydy dyn yn denu merch ifanc sydd heb ddyweddïo i gael rhyw gydag e, rhaid iddo dalu i'w rhieni yr pris sy'n ddyledus i'w chymryd yn wraig iddo'i hun.
17. Rhaid iddo dalu'r arian hyd yn oed os ydy'r tad yn gwrthod gadael iddo briodi'r ferch.
18. Dydy gwraig sy'n dewino ddim i gael byw.
19. Os ydy rhywun yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth.
20. Os ydy rhywun yn aberthu i dduwiau ar wahân i'r ARGLWYDD, rhaid ei ddinistrio'n llwyr!
21. Paid cam-drin mewnfudwyr. Cofiwch mai mewnfudwyr oeddech chi eich hunain yn yr Aifft.
22. Paid cymryd mantais o wraig weddw neu blentyn amddifad.
23. Os gwnei di hynny, a hwythau'n gweiddi arna i am help, bydda i'n ymateb.
24. Bydda i wedi gwylltio'n lân. Byddwch chi'r dynion yn cael eich lladd mewn rhyfel. Bydd eich gwragedd chi'n cael eu gadael yn weddwon, a bydd eich plant yn amddifad.
25. Os wyt ti'n benthyg arian i un o'm pobl Israel sydd mewn angen, paid bod fel y benthycwyr sy'n codi llog arnyn nhw.
26. Os wyt ti'n cymryd mantell rhywun yn ernes am ei fod mewn dyled i ti, gwna'n siŵr dy fod yn ei rhoi yn ôl iddo cyn i'r haul fachlud,
27. gan mai dyna'r cwbl sydd ganddo i gadw'n gynnes yn y nos. Os bydd e'n gweiddi arna i am help, bydda i'n gwrando arno, achos dw i'n garedig.
28. Paid cymryd enw Duw yn ysgafn, na melltithio un o arweinyddion dy bobl.
29. Paid cadw'n ôl beth sydd i fod i gael ei offrymu i mi o'r cynhaeaf grawn a'r cafnau gwin ac olew.Rhaid i bob mab hynaf gael ei roi i mi.