Exodus 21:6-16 beibl.net 2015 (BNET)

6. Os felly, bydd rhaid i'r meistr fynd i'w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll trwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i'w feistr am weddill ei fywyd.

7. Os ydy rhywun wedi gwerthu ei ferch i weithio fel caethforwyn, fydd hi ddim yn cael mynd yn rhydd ar ddiwedd y chwe blwyddyn fel y dynion.

8. Os nad ydy'r ferch yn plesio'r meistr wnaeth ei chymryd hi, mae'n gallu caniatáu i rywun ei phrynu hi'n ôl. Ond does ganddo ddim hawl i'w gwerthu hi i rywun o wlad arall, am ei fod wedi delio'n annheg gyda hi.

9. Os ydy e wedi dewis ei rhoi hi i'w fab, rhaid iddi hi gael yr un hawliau, a chael ei thrin fel petai'n ferch iddo.

10. Os ydy e'n cymryd gwraig arall, mae gan y wraig gyntaf hawl i dderbyn bwyd a dillad ganddo, ac i gael rhyw gydag e.

11. Os nad ydy e'n fodlon rhoi'r tri peth yna iddi, mae ganddi hawl i fynd yn rhydd, heb dalu dim.

12. Os ydy rhywun yn taro person arall a'i ladd, y gosb ydy marwolaeth.

13. Os digwyddodd y peth trwy ddamwain, heb unrhyw fwriad i ladd, dw i'n mynd i drefnu lle saff i'r lladdwr ddianc iddo.

14. Ond os oedd bwriad clir i ladd y person arall, cewch lusgo'r llofrudd i ffwrdd a'i ddienyddio, hyd yn oed os oedd e wedi dianc at fy allor i.

15. Os ydy rhywun yn taro ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.

16. Os ydy rhywun yn herwgipio person arall, i'w werthu neu i'w ddal yn gaeth, y gosb ydy marwolaeth.

Exodus 21