8. Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial.Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.
9. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall,a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
10. Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD.Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –ti na dy feibion a dy ferched,dy weision na dy forynion chwaith;dim hyd yn oed dy anifeiliaidnag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.
11. Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw;wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru.
12. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
13. Paid llofruddio.
14. Paid godinebu.
15. Paid dwyn.
16. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17. Paid chwennych tŷ rhywun arall.Paid chwennych ei wraig,na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,na dim byd sydd gan rywun arall.”
18. Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.
19. Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.”
20. Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.”
21. Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.
22. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd.
23. Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain.
24. Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yn offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi.
25. Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi eu naddu. Os bydd cŷn wedi ei defnyddio arni, bydd yr allor wedi ei halogi.
26. A peidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i'ch rhannau preifat gael eu gweld.’”