Exodus 20:5-19 beibl.net 2015 (BNET)

5. Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plantam dair i bedair cenhedlaeth.

6. Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôlam fil o genedlaethauat y rhai sy'n fy ngharu iac yn gwneud beth dw i'n ddweud.

7. Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw.Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enwddianc rhag cael ei gosbi.

8. Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial.Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.

9. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall,a gwneud popeth sydd angen ei wneud.

10. Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD.Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –ti na dy feibion a dy ferched,dy weision na dy forynion chwaith;dim hyd yn oed dy anifeiliaidnag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.

11. Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw;wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru.

12. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.

13. Paid llofruddio.

14. Paid godinebu.

15. Paid dwyn.

16. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.

17. Paid chwennych tŷ rhywun arall.Paid chwennych ei wraig,na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,na dim byd sydd gan rywun arall.”

18. Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.

19. Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.”

Exodus 20