Exodus 2:15-22 beibl.net 2015 (BNET)

15. A dyma'r Pharo yn dod i glywed am y peth, ac roedd am ladd Moses. Felly dyma Moses yn dianc oddi wrtho a mynd i wlad Midian.Pan gyrhaeddodd yno, eisteddodd wrth ymyl rhyw ffynnon.

16. Roedd gan offeiriad Midian saith merch, a dyma nhw'n dod at y ffynnon, a dechrau codi dŵr i'r cafnau er mwyn i ddefaid a geifr eu tad gael yfed.

17. Ond dyma grŵp o fugeiliaid yn dod a'u gyrru nhw i ffwrdd. Dyma Moses yn achub y merched, ac yn codi dŵr i'w defaid nhw.

18. Pan aeth y merched adre at eu tad, Reuel, dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod adre mor gynnar heddiw?”

19. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Daeth rhyw Eifftiwr a'n hachub ni rhag y bugeiliaid, ac yna codi dŵr i'w roi i'r praidd.”

20. A dyma fe'n gofyn i'w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i'w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.”

21. Cytunodd Moses i aros gyda nhw, a dyma Reuel yn rhoi ei ferch Seffora yn wraig iddo.

22. Wedyn dyma nhw'n cael mab, a dyma Moses yn rhoi'r enw Gershom iddo – “Mewnfudwr yn byw mewn gwlad estron ydw i,” meddai.

Exodus 2