Exodus 19:12-21 beibl.net 2015 (BNET)

12. Rhaid i ti farcio ffin o gwmpas y mynydd, a dweud wrth y bobl, ‘Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dringo na hyd yn oed yn cyffwrdd ymyl y mynydd. Os ydy unrhyw un yn ei gyffwrdd, y gosb ydy marwolaeth.

13. A does neb i gyffwrdd y person neu'r anifail sy'n gwneud hynny chwaith, rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato neu ei saethu gyda bwa saeth. Dydy e ddim i gael byw.’ Dim ond wedi i'r corn hwrdd seinio nodyn hir y cân nhw ddringo'r mynydd.”

14. Felly dyma Moses yn mynd yn ôl i lawr at y bobl. Yna eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad,

15. Dwedodd wrthyn nhw, “Byddwch barod ar gyfer y diwrnod ar ôl yfory. Peidiwch cael rhyw.”

16. Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn.

17. Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd.

18. Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu trwyddo.

19. Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.

20. Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny.

21. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw.

Exodus 19