Exodus 18:25-27 beibl.net 2015 (BNET)

25. Dewisodd ddynion cyfrifol o blith pobl Israel, a'i penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg.

26. Roedden nhw'n barnu'r achosion cyffredin, ac yn mynd â'r achosion anodd at Moses. Roedden nhw'n gallu delio gyda'r achosion hawdd eu hunain.

27. Yna dyma Moses yn ffarwelio gyda'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro yn ôl adre i'w wlad ei hun.

Exodus 18