Exodus 18:10-13 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Bendith ar yr ARGLWYDD” meddai. “Mae wedi eich achub chi oddi wrth y Pharo a'r Eifftiaid!

11. Dw i'n gweld nawr fod yr ARGLWYDD yn gryfach na'r duwiau i gyd! Mae'n gallu gwneud beth maen nhw'n brolio amdano yn well na nhw!”

12. Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm i'w losgi ac aberthau eraill i'w cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwyta'r aberthau o flaen Duw.

13. Y diwrnod wedyn dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio o'i flaen o fore gwyn tan nos.

Exodus 18