Exodus 18:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Clywodd tad-yng-nghyfraith Moses (sef Jethro, offeiriad Midian) am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud i Moses a phobl Israel. Clywodd fod yr ARGLWYDD wedi dod â phobl Israel allan o'r Aifft.

2. Roedd Moses wedi anfon ei wraig Seffora a'i ddau fab yn ôl at Jethro.

3. Gershom oedd enw un mab (am i Moses ddweud, “Dw i wedi bod fel mewnfudwr mewn gwlad ddieithr”),

4. ac Elieser oedd y llall (am fod Moses wedi dweud, “Mae Duw fy nhad wedi fy helpu, ac wedi fy achub rhag cael fy lladd gan y Pharo”).

5. A dyma Jethro yn dod â gwraig Moses a'i feibion i'r anialwch at Moses oedd yn gwersylla wrth ymyl mynydd Sinai.

6. Roedd wedi anfon neges at Moses yn dweud, “Dw i'n dod i dy weld di, gyda dy wraig a dy ddau fab.”

7. A dyma Moses yn mynd allan i'w gyfarfod ac yn ymgrymu o'i flaen ac yn ei gyfarch drwy ei gusanu. Ar ôl holi ei gilydd sut oedd pethau wedi bod, dyma nhw'n mynd yn ôl i babell Moses.

Exodus 18