4. Dyma Moses yn gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD, “Beth dw i'n mynd i'w wneud? Maen nhw'n ar fin fy lladd i!”
5. Dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Dos allan o flaen y bobl, gyda'r ffon wnest ti daro'r Afon Nil gyda hi. A dos â rhai o arweinwyr Israel gyda ti.
6. Bydda i'n disgwyl amdanat ti ar y graig ar Fynydd Sinai. Dw i eisiau i ti daro'r graig, a bydd dŵr yn llifo allan ohoni, i'r bobl gael yfed.” A dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel.
7. Dyma fe'n enwi'r lle yn Massa (“Lle'r profi”) a Meriba (“Lle'r ffraeo”), o achos yr holl ffraeo, a'r ffordd wnaeth pobl Israel roi'r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, “Ydy'r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?”
8. Tra roedden nhw yn Reffidim, dyma'r Amaleciaid yn ymosod ar bobl Israel.
9. A dyma Moses yn dweud wrth Josua, “Dewis rai o'n dynion ni i fynd allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Yfory bydda i'n mynd i sefyll ar ben y bryn gyda ffon Duw yn fy llaw.”