14. Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –bydd pobl Philistia yn poeni,
15. ac arweinwyr Edom wedi brawychu.Bydd dynion cryf Moab yn crynu,a pobl Canaan yn poeni.
16. Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw –mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fudfel carreg.Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy boblwedi pasio heibio, ARGLWYDD;y bobl wnest ti eu prynu wedi pasio heibio.
17. Ond byddi'n mynd â nhw i mewnac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun –ble rwyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD;y cysegr rwyt ti wedi ei sefydlu.
18. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu am byth bythoedd!
19. Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr,dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw.Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”
20. Yna dyma Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl gan ddawnsio.
21. A dyma Miriam yn canu'r gytgan:“Canwch i'r ARGLWYDDi ddathlu ei fuddugoliaeth!Mae e wedi taflu'r ceffylaua'u marchogion i'r môr!”
22. Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Dyma nhw'n mynd allan i Anialwch Shwr. Buon nhw'n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr.
23. Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”)