1. Dyma Moses a pobl Israel yn canu'r gân yma i'r ARGLWYDD:“Dw i am ganu i'r ARGLWYDDa dathlu ei fuddugoliaeth:Mae e wedi taflu'r ceffylaua'u marchogion i'r môr!
2. Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!Fe sydd wedi fy achub i.Dyma'r Duw dw i'n ei addoli –Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol!
3. Yr ARGLWYDD ydy ei enw e.Mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr.
4. Mae wedi taflu cerbydau y Pharoa'i fyddin i gyd i'r môr!Cafodd eu swyddogion goraueu boddi yn y Môr Coch.
5. Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw,a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.
6. Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD;dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.
7. Am dy fod mor aruthrol fawr,rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn –Ti'n dangos dy fod yn ddig,ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.
8. Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr,y llif yn sefyll fel argae,a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.
9. Dyma'r gelyn yn dweud,‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,a rhannu'r ysbail!Dw i'n mynd i gael amser da!Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro –dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’