38. Roedd tyrfa gymysg o bobl wedi mynd gyda nhw, a lot fawr iawn o anifeiliaid – defaid a geifr a gwartheg.
39. Roedden nhw'n gwneud bara i'w fwyta o'r toes wnaethon nhw ei gario o'r Aifft – bara heb furum ynddo. Roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o'r Aifft ar gymaint o frys, doedd dim amser i baratoi bwyd cyn mynd.
40. Roedd pobl Israel wedi bod yn yr Aifft ers pedwar cant tri deg o flynyddoedd.
41. Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, dyma bobl yr ARGLWYDD yn gadael yr Aifft mewn rhengoedd trefnus fel byddin.
42. Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw'r noson yma'n arbennig i'w harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Felly, o hyn ymlaen, ar y noson yma, mae pobl Israel i gyd i fod i gadw gwylnos i'r ARGLWYDD.
43. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Dyma reolau'r Pasg. Dydy pobl o'r tu allan ddim i gael bwyta ohono –
44. dim ond caethweision sydd wedi eu prynu ac wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
45. Dydy mewnfudwyr neu weithwyr sy'n derbyn cyflog ddim i gael bwyta ohono.
46. Rhaid ei fwyta yn y tŷ, a peidio mynd â dim o'r cig allan. A does dim un o'i esgyrn i gael ei dorri.
47. Mae pobl Israel i gyd i gadw'r Ŵyl yma.
48. “Os ydy mewnfudwyr eisiau dathlu Pasg yr ARGLWYDD, rhaid i'r dynion a'r bechgyn fynd trwy ddefod enwaediad gyntaf. Wedyn byddan nhw'n gallu cymryd rhan – byddan nhw'n cael eu hystyried fel un o'ch pobl chi. Ond does neb sydd heb gael ei enwaedu i gael bwyta o'r Pasg.
49. Mae'r rheol hon yr un fath i bawb – Israeliaid a mewnfudwyr fel ei gilydd.”
50. Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses ac Aaron.
51. Ar yr union ddiwrnod yma dyma'r ARGLWYDD yn dod a pobl Israel allan o'r Aifft, yn drefnus fel byddin.