29. Yna digwyddodd y peth! Ganol nos y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn taro meibion hynaf yr Eifftiaid, o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r carcharor yn ei gell, a hyd yn oed pob anifail oedd y cyntaf i gael ei eni.
30. A dyma'r Pharo yn deffro ganol nos, a'i swyddogion a pobl yr Aifft i gyd yr un fath. Roedd wylofain drwy'r wlad i gyd, am fod rhywun o bob teulu wedi marw.
31. A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron yng nghanol y nos, a dweud wrthyn nhw, “Ewch o ma! I ffwrdd â chi! Gadewch lonydd i'm pobl! – chi a pobl Israel! Ewch i addoli'r ARGLWYDD fel roeddech chi eisiau.
32. Ewch â'ch anifeiliaid i gyd fel roeddech chi eisiau. I ffwrdd â chi! Ond cofiwch ofyn am fendith arna i.”
33. Roedd yr Eifftiaid yn benderfynol bellach fod rhaid i bobl Israel adael y wlad, a hynny ar frys. Roedden nhw'n meddwl, “Os arhosan nhw, byddwn ni i gyd wedi marw!”
34. Dyma bobl Israel yn cymryd y toes oedd heb furum ynddo yn eu powlenni cymysgu, eu lapio mewn dillad, a'u cario ar eu hysgwyddau.
35. Ac roedden nhw wedi gwneud beth ddwedodd Moses wrthyn nhw hefyd – roedden nhw wedi gofyn i'r Eifftiaid am bethau o aur ac arian, ac am ddillad.
36. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r Eifftiaid roi anrhegion i bobl Israel. Roedden nhw'n cael beth bynnag oedden nhw'n gofyn amdano. Dyma nhw'n cymryd popeth oddi ar bobl yr Aifft!