1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron yn yr Aifft,
2. “Y mis yma fydd mis cynta'r flwyddyn i chi.
3. Dwedwch wrth bobl Israel: Ar y degfed o'r mis rhaid i bob teulu gymryd oen neu fyn gafr i'w ladd.
4. Os ydy'r teulu'n rhy fach i fwyta'r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda'u cymdogion. Mae'n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta.
5. Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o'i le arno. Gall fod yn oen neu'n fyn gafr.