Exodus 10:3-16 beibl.net 2015 (BNET)

3. Felly dyma Moses ac Aaron yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: ‘Am faint wyt ti'n mynd i wrthod plygu i mi? Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!

4. Os fyddi di'n gwrthod, gwylia dy hun! Bydda i'n anfon locustiaid drwy dy wlad di yfory.

5. Byddan nhw dros bobman! Fyddi di ddim yn gallu gweld y llawr! Byddan nhw'n dinistrio popeth wnaeth ddim cael ei ddifetha gan y cenllysg. Fydd yna ddim byd gwyrdd ar ôl, a dim blagur ar y coed.

6. Byddan nhw drwy dy balas di, tai dy swyddogion a tai pawb arall yn yr Aifft. Fydd dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn holl hanes gwlad yr Aifft!’” Yna dyma Moses yn troi ac yn gadael y Pharo.

7. A dyma swyddogion y Pharo yn dweud wrtho, “Am faint mae hyn i fynd ymlaen? Gad iddyn nhw fynd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. Wyt ti ddim yn gweld y bydd hi ar ben ar y wlad yma?”

8. Dyma nhw'n dod â Moses ac Aaron yn ôl at y Pharo. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?”

9. “Bydd pawb yn mynd,” meddai Moses, “hen ac ifanc, ein plant a'n hanifeiliaid. Dŷn ni'n mynd i gynnal gŵyl i'r ARGLWYDD.”

10. “Duw a'ch helpo os ydych chi'n meddwl y gwna i adael i'ch plant fynd gyda chi! Gwyliwch chi! Byddwch chi mewn trwbwl wedyn!

11. Na! Dim ond y dynion sydd i gael mynd i addoli'r ARGLWYDD. Dyna dych chi eisiau ynte?” A dyma fe'n gyrru'r ddau allan o'i olwg.

12. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law dros wlad yr Aifft i wneud i'r locustiaid ddod. Byddan nhw dros bobman, ac yn difetha popeth sy'n dal i dyfu ar ôl y cenllysg.”

13. Felly dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt o'r dwyrain chwythu drwy'r dydd a'r nos. Erbyn iddi wawrio y bore wedyn roedd y gwynt wedi dod â'r locustiaid i'r wlad.

14. Dyma nhw'n mynd drwy'r wlad i gyd, o un pen i'r llall. Fuodd yna erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd yna ddim un tebyg byth eto.

15. Roedden nhw dros bobman! Roedd y ddaear yn ddu gan locustiaid, a dyma nhw'n difetha pob planhigyn a phob ffrwyth ar bob coeden oedd yn dal yna wedi'r cenllysg. Doedd yna ddim planhigyn na deilen werdd ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!

16. Dyma'r Pharo yn galw Moses ac Aaron ar frys. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a chithau.

Exodus 10