Exodus 10:16-29 beibl.net 2015 (BNET)

16. Dyma'r Pharo yn galw Moses ac Aaron ar frys. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a chithau.

17. Plîs maddeuwch i mi yr un tro yma, a dim ond gweddïo y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cymryd y pla marwol yma i ffwrdd.”

18. Felly dyma Moses yn gadael y Pharo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.

19. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r gwynt droi, a chwythu'n gryf o gyfeiriad y gorllewin. Dyma'r gwynt yn codi'r locustiaid a'u chwythu nhw i gyd i'r Môr Coch. Doedd yna ddim un locust ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!

20. Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd.

21. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law i fyny i'r awyr, a gwneud i dywyllwch ddod dros wlad yr Aifft – tywyllwch dychrynllyd!”

22. Felly dyma Moses yn estyn ei law i fyny i'r awyr, ac roedd hi'n dywyll fel y fagddu drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod.

23. Doedd pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd, a doedd neb yn gallu mynd allan am dri diwrnod! Ond roedd hi'n olau lle roedd pobl Israel yn byw.

24. Dyma'r Pharo yn galw am Moses, a dweud, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD. Cewch fynd â'ch plant gyda chi, ond dw i am gadw'r anifeiliaid yma.”

25. Dyma Moses yn ateb, “Wyt ti ddim am roi anifeiliaid i ni i'w haberthu a'u cyflwyno'n offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ein Duw?

26. Rhaid i'r anifeiliaid fynd gyda ni. Does dim un i gael ei adael ar ôl. Rhaid i ni ddewis rhai ohonyn nhw i'w haberthu i'r ARGLWYDD, a dŷn ni ddim yn gwybod pa rai nes byddwn ni wedi cyrraedd yno.”

27. Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Doedd e ddim am adael iddyn nhw fynd.

28. Meddai'r Pharo, “Dos o ngolwg i! Dw i byth eisiau dy weld di yma eto! Os gwela i di eto, bydda i'n dy ladd di!”

29. “Iawn,” meddai Moses, “fyddi di byth yn fy ngweld i eto.”

Exodus 10