Esther 3:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. Pan glywodd Haman fod Mordecai'n gwrthod ymgrymu iddo a dangos parch ato, aeth yn lloerig.

6. Doedd delio gyda Mordecai ei hun ddim yn ddigon ganddo. Felly pan ddaeth i ddeall fod Mordecai yn Iddew, dyma Haman yn penderfynu lladd pob Iddew drwy deyrnas Ahasferus i gyd.

7. Yn y mis cyntaf (sef Nisan) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar).

8. Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn.

9. Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”

Esther 3