Esther 1:9-13 beibl.net 2015 (BNET)

9. Ar yr un pryd roedd y Frenhines Fasti yn cynnal gwledd i'r gwragedd i gyd ym mhalas y Brenin Ahasferus.

10. Ar ddiwrnod ola'r wledd roedd y gwin wedi mynd i ben y brenin, a dyma fe'n gorchymyn ei saith ystafellydd (sef Mehwman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas)

11. i ddod â'r frenhines Fasti o'i flaen, yn gwisgo ei choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi – roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol.

12. Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân – roedd yn gynddeiriog!

13. Dyma fe'n galw ei gynghorwyr ato – dynion doeth oedd yn deall yr amserau. (Roedd yn arfer gan frenin ofyn am gyngor dynion oedd yn arbenigwyr yn y gyfraith.)

Esther 1