Esra 8:22-36 beibl.net 2015 (BNET)

22. Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.”

23. Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni.

24. Yna dyma fi'n dewis un deg dau o arweinwyr yr offeiriaid, a hefyd Sherefeia, Chashafeia a deg o'u perthnasau.

25. Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi ei gyfrannu):

26. 22 tunnell o arianllestri arian oedd yn pwyso 3.4 tunnell3.4 tunnell o aur

27. 20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogramdau lestr rhyfeddol o gain wedi eu gwneud o bres wedi ei loywi, mor werthfawr ag aur.

28. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD, yn union fel mae'r llestri yma wedi eu cysegru. Offrwm gwirfoddol i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ydy'r arian a'r aur yma.

29. Dw i eisiau i chi ofalu amdano nes byddwch chi'n pwyso'r cwbl o flaen arweinwyr yr offeiriaid, y Lefiaid, a penaethiaid teuluoedd Israel, yn stordai teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.”

30. Felly dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cymryd gofal o'r arian, yr aur a'r llestri oedd wedi cael eu pwyso, i fynd â nhw i deml ein Duw yn Jerwsalem.

31. Dyma ni'n dechrau ar y daith o Gamlas Ahafa i Jerwsalem ar y deuddegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Roedd Duw gyda ni, a dyma fe'n ein hachub ni rhag ein gelynion a rhag lladron ar y daith.

32. Ar ôl cyrraedd Jerwsalem dyma ni'n gorffwys am dri diwrnod.

33. Yna'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd i'r deml i bwyso'r arian a'r aur a'r llestri, a rhoi'r cwbl yng ngofal Meremoth fab Wreia, yr offeiriad. Roedd Eleasar fab Phineas gydag e, a dau Lefiad, sef Iosafad fab Ieshŵa a Noadeia fab Binnŵi.

34. Cafodd popeth ei gyfri, ei bwyso a'i gofnodi yn y fan a'r lle.

35. Yna dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw Israel – un deg dau o deirw dros bobl Israel i gyd, naw deg chwech hwrdd, a saith deg saith oen gwryw. Hefyd un deg dau bwch gafr yn offrwm dros bechod. Roedd y cwbl i gael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.

36. Wedyn dyma nhw'n cyflwyno gorchmynion y brenin i raglawiaid a llywodraethwyr Traws-Ewffrates, a gwnaeth y rheiny bopeth allen nhw i helpu'r bobl a'r gwaith ar deml Dduw.

Esra 8