Esra 6:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Yna hefyd, mae'r llestri aur ac arian wnaeth Nebwchadnesar eu cymryd i Babilon i gael eu rhoi yn ôl. Maen nhw i gael eu gosod ble maen nhw i fod, sef yn y deml yn Jerwsalem.’”

6. Felly dyma Dareius yn ateb Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a swyddogion y dalaith:“Rhaid i chi gadw o'r ffordd,

7. a gadael i'r gwaith ar deml Dduw fynd yn ei flaen. Gadewch i lywodraethwr ac arweinwyr Jwda fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ailadeiladu teml Dduw lle mae hi i fod.

8. Dw i hefyd yn gorchymyn eich bod chi i helpu arweinwyr yr Iddewon fel bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn ddi-rwystr. Mae'r costau i gyd i'w talu allan o drethi talaith Traws-Ewffrates, sy'n cael eu cadw yn y trysorlys brenhinol.

9. Dylid gwneud yn siŵr bob dydd eu bod nhw'n cael popeth sydd ei angen – teirw, hyrddod, ac ŵyn yn offrymau i'w llosgi i Dduw y nefoedd, gwenith, halen, gwin ac olew olewydd – beth bynnag mae'r offeiriaid yn Jerwsalem yn gofyn amdano.

10. Wedyn byddan nhw'n gallu offrymu arogldarth i Dduw y nefoedd, a gweddïo dros y brenin a'i feibion.

11. A dw i'n rhybuddio y bydd unrhyw un sy'n newid y gorchymyn yma yn marw – bydd trawst pren yn cael ei gymryd o'i dŷ a bydd y person hwnnw yn cael ei rwymo i'r trawst a'i drywanu'n farw. Wedyn bydd ei dŷ yn cael ei chwalu am ei fod wedi gwneud y fath beth.

12. Boed i'r Duw sy'n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy'n ceisio newid hyn er mwyn chwalu'r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn, a dw i'n disgwyl i'r cwbl gael ei gadw i'r llythyren!”

13. Dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a'i cydweithwyr yn gwneud yn union beth roedd y brenin Dareius wedi ei orchymyn.

14. Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra roedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi ei orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.

15. Dyma nhw'n gorffen adeiladu'r deml ar y trydydd o fis Adar, yn chweched flwyddyn teyrnasiad y brenin Dareius.

Esra 6