Esra 6:12-22 beibl.net 2015 (BNET)

12. Boed i'r Duw sy'n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy'n ceisio newid hyn er mwyn chwalu'r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn, a dw i'n disgwyl i'r cwbl gael ei gadw i'r llythyren!”

13. Dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a'i cydweithwyr yn gwneud yn union beth roedd y brenin Dareius wedi ei orchymyn.

14. Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra roedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi ei orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia.

15. Dyma nhw'n gorffen adeiladu'r deml ar y trydydd o fis Adar, yn chweched flwyddyn teyrnasiad y brenin Dareius.

16. Trefnodd pobl Israel ddathliad i gysegru'r deml. Roedd pawb yno – yr offeiriaid, y Lefiaid, a pawb arall ddaeth yn ôl o'r gaethglud.

17. Cafodd cant o deirw eu hoffrymu, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, ac un deg dau bwch gafr dros bechodau pobl Israel (un ar ran pob llwyth).

18. Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw'n rhannu'r offeiriaid a'r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem.

19. Dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn dathlu'r Pasg ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

20. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain ac wedi eu cysegru. Felly dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg ar ran y bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud, ac ar ran yr offeiriaid eraill a nhw eu hunain.

21. Cafodd aberthau'r Pasg eu bwyta gan bobl Israel a phawb arall oedd wedi ymuno gyda nhw a troi cefn ar arferion paganaidd pobloedd eraill y wlad er mwyn dilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel.

22. A dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedden nhw mor hapus am fod yr ARGLWYDD wedi newid agwedd brenin Asyria tuag atyn nhw, a gwneud iddo eu helpu nhw gyda'r gwaith o adeiladu teml Dduw, Duw Israel.

Esra 6