8. Dyma'r gwaith o adeiladu teml Dduw yn dechrau flwyddyn a mis ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl o Babilon i Jerwsalem. Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac ddechreuodd y gwaith, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem o'r gaethglud. A dyma nhw'n penodi Lefiaid oedd dros ugain oed i arolygu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar deml yr ARGLWYDD.
9. Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafia), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi.
10. Pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r ARGLWYDD. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi ei gosod.