Eseia 9:10-21 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Mae'r blociau pridd wedi syrthio,ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd!Mae'r coed sycamor wedi eu torri i lawr,ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”

11. Gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi.Roedd e wedi arfogi ei gelynion –

12. daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin –Roedd eu cegau'n llydan agored,a dyma nhw'n llyncu tir Israel.Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

13. Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôlat yr un wnaeth eu taro nhw;Dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD holl-bwerus.

14. Felly bydd yr ARGLWYDD yn torripen a chynffon Israel;y gangen balmwydd a'r frwynenar yr un diwrnod.

15. Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen;y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.

16. Mae'r arweinwyr wedi camarwain,a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.

17. Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc;Dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon.Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg;maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl.Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

18. Mae drygioni yn llosgi fel tân,ac yn dinistrio'r drain a'r mieri;mae'n llosgi drwy ddrysni'r coednes bod y mwg yn codi yn golofnau.

19. Pan mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi digio,mae'r wlad yn llosgi.Mae'r bobl fel tanwydd,a does neb yn poeni am neb arall.

20. Maen nhw'n torri cig fan yma,ond yn dal i newynu;maen nhw'n bwyta fan acwond ddim yn cael digon.Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd –

21. Manasse'n ymosod ar Effraimac Effraim ar Manasse,a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda!Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

Eseia 9