Eseia 9:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond fydd y tywyllwch ddim yn parai'r tir aeth drwy'r fath argyfwng!Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulona thir Nafftali eu cywilyddio;ond yn y dyfodol bydd Duwyn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd,ar Ffordd y Môr,a'r ardal yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.

2. Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwchwedi gweld golau llachar.Mae golau wedi gwawrioar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.

3. Ti wedi lluosogi'r genedl,a'i gwneud yn hapus iawn;Maen nhw'n dathlu o dy flaen difel ffermwyr adeg y cynhaeaf,neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.

4. Achos rwyt ti wedi torri'r iauoedd yn faich arnyn nhw,a'r ffon oedd yn curo eu cefnau nhw– sef gwialen y meistr gwaith –fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian.

5. Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd,a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed,yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.

6. Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni;mab wedi cael ei roi i ni.Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.A bydd yn cael ei alw ynStrategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.

Eseia 9