Eseia 8:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno'n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’”.

2. Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia.

3. Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas,

4. achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”

5. A dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda mi eto:

6. “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa,sy'n llifo'n dawel,ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.

7. Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryfyr Ewffrates lifo trostyn nhw –sef brenin Asyria a'i fyddin.Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau,ac yn gorlifo'i glannau.

8. Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogyddac yn codi at y gwddf.Mae ei adenydd wedi eu lledudros dy dir i gyd, Emaniwel!”

9. Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd:Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio;Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio!

Eseia 8