20. A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r ARGLWYDD—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.
21. A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r ARGLWYDD.
22. “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydddw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i”—meddai'r ARGLWYDD—“felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros.
23. O un Ŵyl y lleuad newydd i'r llall,ac o un saboth i saboth arall,bydd pawb yn dod i addoli o'm blaen i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.