1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Y nefoedd ydy fy ngorsedd i,a'r ddaear ydy fy stôl droed i.Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi?Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys?
2. Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli?Fi ddaeth â nhw i fod!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Ac eto dyma pwy dw i'n cymryd sylw ohonyn nhw:Y rhai tlawd sy'n teimlo'n annigonolac sy'n parchu fy neges.
3. Ond am y bobl sy'n lladd ychen ac yna'n llofruddio rhywun,yn aberthu oen ac yna'n torri gwddf ci,yn cyflwyno offrwm o rawn ac yna'n aberthu gwaed moch,yn llosgi arogldarth ac yna'n addoli eilun-dduwiau –maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunainac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma –
4. bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym,a throi eu hofnau gwaetha yn realiti.Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb;pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando.Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
5. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud!Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chia'ch cau chi allan am sefyll drosta i.Maen nhw'n dweud yn wawdlyd:“Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu,i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.”Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.
6. Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas,a sŵn yn dod o'r deml!Sŵn yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i'w elynion.
7. All gwraig gael plentyn heb boenau geni?All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau?
8. Na! Pwy glywodd am y fath beth?Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd?Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod?Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment?Ond dyma Seion newydd ddechrau esgorac mae eisoes wedi cael ei phlant!
9. “Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?”—yr ARGLWYDD sy'n gofyn.“Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?”—ie, dy Dduw sy'n gofyn.