6. Edrychwch! Mae wedi ei gofnodi o'm blaen i!Dw i ddim am ei ddiystyru –dw i'n mynd i dalu'n ôl yn llawn!Talu'n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau,
7. a phechodau eu hynafiaid hefyd.”—meddai'r ARGLWYDD—“Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd,ac yn fy enllibio i ar y bryniau.Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw'n llawnam bopeth wnaethon nhw o'r dechrau cyntaf!”
8. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin,a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo,’felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision –fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.
9. Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob,a pobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda.Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn eu feddiannu,a bydd fy ngweision yn byw yno.
10. Bydd Saron yn borfa i ddefaid,a Dyffryn Achor, sy'n le i wartheg orwedd,yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i.